Our Story

The Rowlands/Breese family have been welcoming guests to the farm since 1964 when John’s grandparents, Gwyn & bought Cefn Crib. There were no static caravans here then, only small touring vans, but there are still families here that were here right at the beginning and we love to hear and receive photos of that era.

John and I take care of the Caravan Park, for John’s parents, which includes 42 static caravans and 18 touring caravans.

In 2014 we needed an extra source of income for ourselves, and we set up our glamping site on the farm. We now have 4 luxury glamping bell tents, a shepherd’s hut and a cabin. It’s a family affair, with both of us and our children, Megan, Ieuan & Gwenllian, all pitching in.

Cefn Crib is part of a 1,000 acre farming enterprise which John farms alongside his brother Arwyn and their dad, Ron.

John sorts all the jobs on our glamping accommodation and on the caravan park and I take care of all admin, marketing and changeovers of our glamping accommodation, and will be your point of contact from the initial booking through to welcoming you onto the site on arrival.

I think John’s Grandad would be proud of all that we have achieved, and we are very lucky to be guardians of this amazing place for future generations!

Sian

 

Ein Stori

Mae’r teulu Rowlands/Breese wedi bod yn croesawu gwesteion i’r fferm ers 1964, pan brynwyd y fferm gan Gwyn a Glenys, sef Taid a Nain John. Doedd dim carafanau mawr sefydlog adeg hynny, roeddent dipyn llai, debycach i garafan teithiol. Mae rhai o’r teuluoedd hynny yma hyd heddiw, ac rydym wrth ein boddau yn clywed hanesion, a derbyn lluniau o’r cyfnod hwnnw.

Mae John a finnau yn gofalu am y maes carafanau erbyn hyn i rieni John, ac mae yma 42 o garafanau sefydlog, ac 18 o rai teithiol.

Yn 2014, roedd angen i ni feddwl am incwm ychwanegol i ni fel teulu, ac fe benderfynodd y ddau ohonom sefydlu ein maes glampio ein hunain. Erbyn hyn mae’r busnes wedi tyfu ac mae gennym bedair pabell foethus, cwt bugail a chaban pren. Mae’n fenter deuluol gyda’r plant, Megs, Ieu a Gwenllian ein yn helpu’n gyson.

Mae Cefn Crib yn rhan o fenter amaethyddol o 1,000 o aceri, ac mae John yn amaethu ochr yn ochr a’i frawd Arwyn a’i dad Ron.

John sy’n sortio’r holl jobsus sydd angen eu gwneud yn y glampio, a finnau’n trefnu’r marchnata, yr archebion a byddaf yn gyswllt o’r amser y byddwch yn cysylltu gyntaf hyd nes y byddaf yn eich croesawu yma wrth i chi gyrraedd.

Rwy’n eitha sicr y byddai Taid John yn falch iawn o’r oll mae’r teulu i gyd wedi ei gyflawni, ac rydym yn hynod lwcus o fedru gwarchod y lle arbennig yma ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Sian